Diarhebion 23:27-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Canys ffos ddofn yw putain: a phydew cyfyng yw y ddieithr.

28. Ie, hi a gynllwyn fel gwilliad; ac a chwanega bechaduriaid ymysg dynion.

29. I bwy y mae gwae? i bwy y mae ochain? i bwy y mae cynnen? i bwy y mae dadwrdd? ac i bwy y mae gwelïau heb achos? i bwy y mae llygaid cochion?

30. I'r neb sydd yn aros wrth y gwin: i'r neb sydd yn myned i ymofyn am win cymysgedig.

31. Nac edrych ar y gwin pan fyddo goch, pan ddangoso ei liw yn y cwpan, pan ymgynhyrfo yn iawn.

Diarhebion 23