Diarhebion 22:13-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Medd y diog, Y mae llew allan; fo'm lleddir yng nghanol yr heolydd.

14. Ffos ddofn yw genau gwragedd dieithr: y neb y byddo yr Arglwydd yn ddig wrtho, a syrth yno.

15. Ffolineb sydd yn rhwym yng nghalon plentyn; ond gwialen cerydd a'i gyr ymhell oddi wrtho.

16. Y neb a orthrymo y tlawd er ychwanegu ei gyfoeth, a'r neb a roddo i'r cyfoethog, a ddaw i dlodi yn ddiamau.

17. Gogwydda dy glust, a gwrando eiriau y doethion, a gosod dy galon ar fy ngwybodaeth.

Diarhebion 22