Diarhebion 21:21-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Y neb a ddilyno gyfiawnder a thrugaredd, a gaiff fywyd, cyfiawnder, ac anrhydedd.

22. Y doeth a ddring i ddinas y cedyrn, ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hyderu arno.

23. Y neb a gadwo ei enau a'i dafod, a geidw ei enaid rhag cyfyngder.

24. Y balch a'r gwatwarwr uchel, yw enw y gŵr a wnelo beth mewn dicllonedd balch.

25. Deisyfiad y diog a'i lladd: canys ei ddwylo a wrthodant weithio:

26. Yn hyd y dydd y mae yn fawr ei awydd: ond y cyfiawn a rydd, ac ni arbed.

Diarhebion 21