Diarhebion 20:9-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod?

10. Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr Arglwydd bob un o'r ddau.

11. Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith.

12. Y glust yn clywed, a'r llygad yn gweled, yr Arglwydd a wnaeth bob un o'r ddau.

13. Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y'th ddigoner â bara.

Diarhebion 20