Diarhebion 20:4-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y cynhaeaf, ac ni chaiff ddim.

5. Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a'i tyn allan.

6. Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun: ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon?

7. Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef.

8. Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â'i lygaid bob drwg.

9. Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod?

10. Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr Arglwydd bob un o'r ddau.

11. Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith.

12. Y glust yn clywed, a'r llygad yn gweled, yr Arglwydd a wnaeth bob un o'r ddau.

13. Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y'th ddigoner â bara.

14. Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o'r neilltu, efe a ymffrostia.

15. Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr.

16. Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros estrones.

17. Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o'r diwedd ei enau a lenwir â graean.

18. Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela.

19. Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â'r hwn a wenieithio â'i wefusau.

20. Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du.

Diarhebion 20