Diarhebion 20:19-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â'r hwn a wenieithio â'i wefusau.

20. Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du.

21. Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad; ond ei diwedd ni fendithir.

22. Na ddywed, Mi a dalaf ddrwg: disgwyl wrth yr Arglwydd, ac efe a'th achub.

23. Ffiaidd gan yr Arglwydd amryw bwysau; a chlorian twyllodrus nid yw dda.

Diarhebion 20