Diarhebion 20:12-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Y glust yn clywed, a'r llygad yn gweled, yr Arglwydd a wnaeth bob un o'r ddau.

13. Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y'th ddigoner â bara.

14. Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o'r neilltu, efe a ymffrostia.

15. Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr.

16. Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros estrones.

17. Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o'r diwedd ei enau a lenwir â graean.

18. Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela.

19. Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â'r hwn a wenieithio â'i wefusau.

20. Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du.

21. Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad; ond ei diwedd ni fendithir.

22. Na ddywed, Mi a dalaf ddrwg: disgwyl wrth yr Arglwydd, ac efe a'th achub.

23. Ffiaidd gan yr Arglwydd amryw bwysau; a chlorian twyllodrus nid yw dda.

24. Oddi wrth yr Arglwydd y mae cerddediad gŵr: ond beth a ddeall dyn o'i ffordd ei hun?

25. Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn.

Diarhebion 20