Diarhebion 18:9-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i'r treulgar.

10. Tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd: ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel.

11. Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun.

12. Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydedd y bydd gostyngeiddrwydd.

13. Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo.

14. Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond ysbryd cystuddiedig pwy a'i cyfyd?

Diarhebion 18