Diarhebion 18:5-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn.

6. Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen, a'i enau a eilw am ddyrnodiau.

7. Genau y ffôl yw ei ddinistr, a'i wefusau sydd fagl i'w enaid.

8. Geiriau yr hustyngwr sydd megis archollion, ac a ddisgynnant i gilfachau y bol.

9. Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i'r treulgar.

10. Tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd: ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel.

Diarhebion 18