Diarhebion 18:15-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth.

16. Rhodd dyn a ehanga arno, ac a'i dwg ef gerbron penaethiaid.

17. Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymydog a ddaw ac a'i chwilia ef.

18. Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn.

19. Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier, na dinas gadarn: a'u hymryson sydd megis trosol castell.

Diarhebion 18