Diarhebion 17:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwell yw tamaid sych a llonyddwch gydag ef, na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson.

2. Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus; ac a gaiff ran o'r etifeddiaeth ymhlith y brodyr.

3. Y tawddlestr sydd i'r arian, a'r ffwrn i'r aur: ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr Arglwydd.

4. Y drygionus a wrendy ar wefus anwir: a'r celwyddog a rydd glust i dafod drwg.

Diarhebion 17