Diarhebion 15:3-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ym mhob lle y mae llygaid yr Arglwydd, yn canfod y drygionus a'r daionus.

4. Pren y bywyd yw tafod iach: ond trawsedd ynddo sydd rwyg yn yr ysbryd.

5. Dyn ffôl a ddiystyra addysg ei dad: ond y neb a ddioddefo gerydd, sydd gall.

6. Yn nhŷ y cyfiawn y bydd mawr gyfoeth: ond am olud yr annuwiol y mae trallod.

7. Gwefusau y doethion a wasgarant wybodaeth: ond calon y ffyliaid ni wna felly.

Diarhebion 15