Diarhebion 15:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ateb arafaidd a ddetry lid: ond gair garw a gyffry ddigofaint.

2. Tafod y synhwyrol a draetha wybodaeth yn dda: ond genau y ffyliaid a dywallt ffolineb.

3. Ym mhob lle y mae llygaid yr Arglwydd, yn canfod y drygionus a'r daionus.

Diarhebion 15