Diarhebion 14:11-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua.

12. Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau.

13. Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch.

14. Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o'i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef.

15. Yr ehud a goelia bob gair: a'r call a ddeil ar ei gamre.

Diarhebion 14