Diarhebion 11:28-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Y neb a roddo ei oglyd ar ei gyfoeth, a syrth: ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen.

29. Y neb a flino ei dŷ ei hun, a berchenoga y gwynt: a'r ffôl a fydd gwas i'r synhwyrol ei galon.

30. Ffrwyth y cyfiawn sydd megis pren y bywyd: a'r neb a enillo eneidiau, sydd ddoeth.

31. Wele, telir i'r cyfiawn ar y ddaear: pa faint mwy i'r drygionus a'r pechadur?

Diarhebion 11