Diarhebion 11:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef.

2. Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda'r gostyngedig y mae doethineb.

3. Perffeithrwydd yr uniawn a'u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a'u difetha hwynt.

Diarhebion 11