Deuteronomium 8:17-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A dywedyd ohonot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn.

18. Ond cofia yr Arglwydd dy Dduw: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhao efe ei gyfamod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn.

19. Ac os gan anghofio yr anghofi yr Arglwydd dy Dduw, a dilyn duwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddiw, gan ddifetha y'ch difethir.

20. Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr Arglwydd ar eu difetha o'ch blaen chwi, felly y difethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw.

Deuteronomium 8