1. Adyma 'r gorchmynion, y deddfau, a'r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i'w meddiannu:
2. Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, a'i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a'th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau.
3. Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mĂȘl.