Deuteronomium 33:22-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Am Dan hefyd y dywedodd, Dan yn genau llew a neidia o Basan.

23. Ac am Nafftali y dywedodd, O Nafftali, llawn o hawddgarwch, a chyflawn o fendith yr Arglwydd: meddianna di y gorllewin a'r deau.

24. Ac am Aser y dywedodd, Bendithier Aser รข phlant: bydded gymeradwy gan ei frodyr: ac efe a wlych ei droed mewn olew.

25. Haearn a phres fydd dan dy esgid di; a megis dy ddyddiau, y bydd dy nerth.

26. Nid oes megis Duw Israel, yr hwn sydd yn marchogaeth y nefoedd yn gymorth i ti, a'r wybrennau yn ei fawredd.

27. Dy noddfa yw Duw tragwyddol, ac oddi tanodd y mae y breichiau tragwyddol efe a wthia dy elyn o'th flaen, ac a ddywed, Difetha ef.

Deuteronomium 33