Deuteronomium 29:15-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Ond â'r hwn sydd yma gyda ni yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd ein Duw, ac â'r hwn nid yw yma gyda ni heddiw:

16. (Canys chwi a wyddoch y modd y trigasom ni yn nhir yr Aifft, a'r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt;

17. A chwi a welsoch eu ffieidd‐dra hwynt a'u heilun‐dduwiau, pren a maen, arian ac aur, y rhai oedd yn eu mysg hwynt:)

18. Rhag bod yn eich mysg ŵr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddiw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod:

19. A bod, pan glywo efe eiriau y felltith hon, ymfendithio ohono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yng nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched:

20. Ni fyn yr Arglwydd faddau iddo; canys yna y myga dicllonedd yr Arglwydd a'i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a'r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a'r Arglwydd a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd.

21. A'r Arglwydd a'i neilltua ef oddi wrth holl lwythau Israel, i gael drwg, yn ôl holl felltithion y cyfamod a ysgrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon.

22. A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ôl, sef eich plant chwi, y rhai a godant ar eich ôl chwi, a'r dieithr yr hwn a ddaw o wlad bell, pan welont blâu y wlad hon, a'i chlefydau, trwy y rhai y mae yr Arglwydd yn ei chlwyfo hi;

23. A'i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen, na heuir ef, ac na flaendardda, ac na ddaw i fyny un llysieuyn ynddo fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboim, y rhai a ddinistriodd yr Arglwydd yn ei lid a'i ddigofaint:

24. Ie, yr holl genhedloedd a ddywedant Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i'r tir hwn? pa ddicter yw y digofaint mawr hwn?

25. Yna y dywedir, Am wrthod ohonynt gyfamod Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a amododd efe â hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aifft.

26. Canys aethant a gwasanaethasant dduwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt; sef duwiau nid adwaenent hwy, ac ni roddasai efe iddynt.

27. Am hynny yr enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn y wlad hon, i ddwyn arni bob melltith a'r y sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.

28. A'r Arglwydd a'u dinistriodd hwynt o'u tir mewn digofaint, ac mewn dicter, ac mewn llid mawr, ac a'u gyrrodd hwynt i wlad arall, megis y gwelir heddiw.

29. Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr Arglwydd ein Duw, a'r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i'n plant hyd byth; fel y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon.

Deuteronomium 29