Deuteronomium 29:14-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Ac nid â chwi yn unig yr ydwyf fi yn gwneuthur y cyfamod hwn, a'r cynghrair yma;

15. Ond â'r hwn sydd yma gyda ni yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd ein Duw, ac â'r hwn nid yw yma gyda ni heddiw:

16. (Canys chwi a wyddoch y modd y trigasom ni yn nhir yr Aifft, a'r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt;

17. A chwi a welsoch eu ffieidd‐dra hwynt a'u heilun‐dduwiau, pren a maen, arian ac aur, y rhai oedd yn eu mysg hwynt:)

18. Rhag bod yn eich mysg ŵr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddiw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod:

19. A bod, pan glywo efe eiriau y felltith hon, ymfendithio ohono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yng nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched:

20. Ni fyn yr Arglwydd faddau iddo; canys yna y myga dicllonedd yr Arglwydd a'i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a'r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a'r Arglwydd a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd.

21. A'r Arglwydd a'i neilltua ef oddi wrth holl lwythau Israel, i gael drwg, yn ôl holl felltithion y cyfamod a ysgrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon.

22. A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ôl, sef eich plant chwi, y rhai a godant ar eich ôl chwi, a'r dieithr yr hwn a ddaw o wlad bell, pan welont blâu y wlad hon, a'i chlefydau, trwy y rhai y mae yr Arglwydd yn ei chlwyfo hi;

23. A'i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen, na heuir ef, ac na flaendardda, ac na ddaw i fyny un llysieuyn ynddo fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboim, y rhai a ddinistriodd yr Arglwydd yn ei lid a'i ddigofaint:

24. Ie, yr holl genhedloedd a ddywedant Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i'r tir hwn? pa ddicter yw y digofaint mawr hwn?

25. Yna y dywedir, Am wrthod ohonynt gyfamod Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a amododd efe â hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aifft.

Deuteronomium 29