Deuteronomium 24:12-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsg â'i wystl gyda thi.

13. Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y'th fendithio di: a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw.

14. Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus, o'th frodyr, neu o'th ddieithr-ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di:

15. Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn, a bod pechod ynot.

16. Na rodder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.

17. Na ŵyra farn y dieithr na'r amddifad ac na chymer ar wystloraeth wisg y weddw.

18. Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Aifft, a'th waredu o'r Arglwydd dy Dduw oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.

19. Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i'w chymryd: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw; fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylo.

20. Pan ysgydwych dy olewydden, na loffa ar dy ôl: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw.

21. Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ôl: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw.

22. Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aifft: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.

Deuteronomium 24