Deuteronomium 23:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Na ffieiddia Edomiad; canys dy frawd yw: na ffieiddia Eifftiad; oherwydd dieithr fuost yn ei wlad ef.

8. Deued ohonynt i gynulleidfa yr Arglwydd y drydedd genhedlaeth o'r meibion a genhedlir iddynt.

9. Pan êl y llu allan yn erbyn dy elynion yna ymgadw rhag pob peth drwg.

10. O bydd un ohonot heb fod yn lân, oherwydd damwain nos; eled allan o'r gwersyll; na ddeued o fewn y gwersyll.

11. Ac ym min yr hwyr ymolched mewn dwfr: yna wedi machludo'r haul, deued i fewn y gwersyll.

Deuteronomium 23