14. Ac oni bydd hi wrth dy fodd; yna gollwng hi yn ôl ei hewyllys ei hun, a chan werthu na werth hi er arian; na chais elw ohoni, am i ti ei darostwng hi.
15. Pan fyddo i ŵr ddwy wraig, un yn gu, ac un yn gas; a phlanta o'r gu a'r gas feibion iddo ef, a bod y mab cyntaf‐anedig o'r un gas:
16. Yna bydded, yn y dydd y rhanno efe ei etifeddiaeth rhwng ei feibion y rhai fyddant iddo, na ddichon efe wneuthur yn gyntaf‐anedig fab y gu o flaen mab y gas, yr hwn sydd gyntaf‐anedig;
17. Ond mab y gas yr hwn sydd gyntaf‐anedig a gydnebydd efe, gan roddi iddo ef y ddeuparth o'r hyn oll a gaffer yn eiddo ef: o achos hwn yw dechreuad ei nerth ef; iddo y bydd braint y cyntaf‐anedig.
18. Ond o bydd i ŵr fab cyndyn ac anufudd, heb wrando ar lais ei dad, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef, ni wrendy arnynt:
19. Yna ei dad a'i fam a ymaflant ynddo, ac a'i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan;