Deuteronomium 20:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: oherwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi, yr hwn a'th ddug di i fyny o dir yr Aifft.

2. A bydd, pan nesaoch i'r frwydr, yna ddyfod o'r offeiriad, a llefaru wrth y bobl,

3. A dywedyd wrthynt, Clyw, Israel: Yr ydych chwi yn nesáu heddiw i'r frwydr yn erbyn eich gelynion: na feddalhaed eich calon, nac ofnwch, na synnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt.

Deuteronomium 20