Deuteronomium 19:10-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth; ac na byddo gwaed i'th erbyn.

11. Ond os bydd gŵr yn casáu ei gymydog, ac yn cynllwyn iddo, a chodi yn ei erbyn, a'i ddieneidio fel y byddo farw, a ffoi i un o'r dinasoedd hyn:

12. Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef, a chymerant ef oddi yno, a rhoddant ef yn llaw dialydd y gwaed, fel y byddo farw.

13. Nac arbeded dy lygad ef, ond tyn ymaith affaith gwaed gwirion o Israel, fel y byddo daioni i ti.

14. Na symud derfyn dy gymydog, yr hwn a derfynodd y rhai a fu o'r blaen, o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i'w feddiannu.

15. Na choded un tyst yn erbyn neb am ddim anwiredd, neu ddim pechod, o'r holl bechodau a becho efe: wrth dystiolaeth dau o dystion, neu wrth dystiolaeth tri o dystion, y bydd safadwy y peth.

Deuteronomium 19