Deuteronomium 17:10-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A gwna yn ôl rheol y gair a ddangosant i ti, o'r lle hwnnw a ddewiso yr Arglwydd; ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgant i ti.

11. Yn ôl rheol y gyfraith a ddysgont i ti, ac yn ôl y farn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti, i'r tu deau nac i'r tu aswy.

12. A'r gŵr a wnêl mewn rhyfyg, heb wrando ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr Arglwydd dy Dduw, neu ar y barnwr; yna rhodder i farwolaeth y gŵr hwnnw: a thyn ymaith y drwg o Israel.

13. A'r holl bobl a glywant, ac a ofnant; ac ni ryfygant mwy.

14. Pan ddelych i'r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a'i feddiannu, a thrigo ynddo, os dywedi, Gosodaf arnaf frenin, megis yr holl genhedloedd sydd o'm hamgylch:

15. Gan osod gosod arnat yn frenin yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: o blith dy frodyr y gosodi arnat frenin; ni elli roddi arnat ŵr dieithr yr hwn nid yw frawd i ti.

16. Ond nac amlhaed iddo feirch, ac na ddychweled efe y bobl i'r Aifft i amlhau meirch; gan i'r Arglwydd ddywedyd wrthych, Na chwanegwch ddychwelyd y ffordd honno mwy.

17. Ac nac amlhaed iddo wragedd, fel na ŵyro ei galon; ac nac amlhaed arian ac aur lawer iddo.

18. A phan eisteddo ar deyrngadair ei frenhiniaeth, ysgrifenned iddo gopi o'r gyfraith hon mewn llyfr, allan o'r hwn sydd gerbron yr offeiriaid y Lefiaid.

Deuteronomium 17