Deuteronomium 16:11-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ti, a'th fab, a'th ferch, a'th was, a'th forwyn, a'r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o'i enw ef ynddo.

12. Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aifft: a chadw a gwna y deddfau hyn.

13. Cadw i ti ŵyl y pebyll saith niwrnod, wedi i ti gasglu dy ŷd a'th win.

Deuteronomium 16