Deuteronomium 14:6-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A phob anifail yn hollti'r ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ac yn cnoi cil, ymysg yr anifeiliaid; hwnnw a fwytewch.

7. Ond hyn ni fwytewch, o'r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn fforchog: y camel, a'r ysgyfarnog, a'r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi'r ewin, aflan ydynt i chwi.

8. Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogi'r ewin, ac heb gnoi cil, aflan yw i chwi: na fwytewch o'u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â'u burgyn hwynt.

9. Hyn a fwytewch o'r hyn oll sydd yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd iddo esgyll a chen a fwytewch.

10. A'r hyn oll nid oes iddo esgyll a chen, ni fwytewch: aflan yw i chwi.

11. Pob aderyn glân a fwytewch.

12. A dyma'r rhai ni fwytewch ohonynt yr eryr, a'r wyddwalch, a'r fôr‐wennol,

13. A'r bod, a'r barcud, a'r fwltur yn ei rhyw,

14. A phob cigfran yn ei rhyw,

15. A chyw yr estrys, a'r frân nos, a'r gog, a'r hebog yn ei ryw,

16. Aderyn y cyrff, a'r dylluan, a'r gogfran,

17. A'r pelican, a'r biogen, a'r fulfran,

18. A'r ciconia, a'r crŷr yn ei ryw, a'r gornchwigl, a'r ystlum.

19. A phob ymlusgiad asgellog sydd aflan i chwi: na fwytaer hwynt.

20. Pob ehediad glân a fwytewch.

21. Na fwytewch ddim a fo marw ei hun: dod ef i'r dieithr fyddo yn dy byrth, a bwytaed ef; neu gwerth ef i'r dieithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i'r Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.

22. Gan ddegymu degyma holl gynnyrch dy had, sef ffrwyth dy faes, bob blwyddyn.

Deuteronomium 14