Deuteronomium 14:3-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Na fwyta ddim ffiaidd.

4. Dyma'r anifeiliaid a fwytewch: eidion, llwdn dafad, a llwdn gafr,

5. Y carw, a'r iwrch, a'r llwdn hydd, a'r bwch gwyllt, a'r unicorn, a'r ych gwyllt, a'r afr wyllt.

6. A phob anifail yn hollti'r ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ac yn cnoi cil, ymysg yr anifeiliaid; hwnnw a fwytewch.

7. Ond hyn ni fwytewch, o'r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn fforchog: y camel, a'r ysgyfarnog, a'r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi'r ewin, aflan ydynt i chwi.

8. Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogi'r ewin, ac heb gnoi cil, aflan yw i chwi: na fwytewch o'u cig hwynt, ac na chyffyrddwch รข'u burgyn hwynt.

9. Hyn a fwytewch o'r hyn oll sydd yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd iddo esgyll a chen a fwytewch.

Deuteronomium 14