Deuteronomium 12:6-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A dygwch yno eich poethoffrymau, a'ch aberthau, a'ch degymau, ac offrwm dyrchafael eich llaw, eich addunedau hefyd, a'ch offrymau gwirfodd, a chyntaf‐anedig eich gwartheg a'ch defaid.

7. A bwytewch yno gerbron yr Arglwydd eich Duw, a llawenhewch ym mhob dim y rhoddoch eich llaw arno, chwychwi a'ch teuluoedd, yn yr hyn y'th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw.

8. Na wnewch yn ôl yr hyn oll yr ydym ni yn ei wneuthur yma heddiw, pob un yr hyn fyddo uniawn yn ei olwg ei hun.

Deuteronomium 12