Deuteronomium 12:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyma 'r deddfau a'r barnedigaethau, y rhai a wyliwch ar eu gwneuthur, yn y tir a rydd Arglwydd Dduw dy dadau i ti i'w feddiannu, yr holl ddyddiau y byddoch fyw ar y ddaear.

2. Gan ddinistrio dinistriwch yr holl fannau, y rhai y gwasanaethodd y cenhedloedd yr ydych chwi yn eu meddiannu eu duwiau ynddynt, ar y mynyddoedd uchel, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas.

Deuteronomium 12