Datguddiad 9:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r pumed angel a utganodd; ac mi a welais seren yn syrthio o'r nef i'r ddaear: a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod.

2. Ac efe a agorodd y pydew heb waelod; a chododd mwg o'r pydew, fel mwg ffwrn fawr: a thywyllwyd yr haul a'r awyr gan fwg y pydew.

3. Ac o'r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear; a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan ysgorpionau'r ddaear awdurdod.

Datguddiad 9