Datguddiad 4:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ar ôl y pethau hyn yr edrychais; ac wele ddrws wedi ei agoryd yn y nef: a'r llais cyntaf a glywais oedd fel llais utgorn yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Dring i fyny yma, a mi a ddangosaf i ti'r pethau sydd raid eu bod ar ôl hyn.

2. Ac yn y man yr oeddwn yn yr ysbryd: ac wele, yr oedd gorseddfainc wedi ei gosod yn y nef, ac un yn eistedd ar yr orseddfainc.

3. A'r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen iasbis a sardin: ac yr oedd enfys o amgylch yr orseddfainc, yn debyg yr olwg arno i smaragdus.

4. Ac ynghylch yr orseddfainc yr oedd pedair gorseddfainc ar hugain: ac ar y gorseddfeinciau y gwelais bedwar henuriad ar hugain yn eistedd, wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion; ac yr oedd ganddynt ar eu pennau goronau aur.

5. Ac yr oedd yn dyfod allan o'r orseddfainc fellt, a tharanau, a lleisiau: ac yr oedd saith o lampau tân yn llosgi gerbron yr orseddfainc, y rhai yw saith Ysbryd Duw.

6. Ac o flaen yr orseddfainc yr ydoedd môr o wydr, yn debyg i grisial: ac yng nghanol yr orseddfainc, ac ynghylch yr orseddfainc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o'r tu blaen ac o'r tu ôl.

Datguddiad 4