22. A theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a'r Oen, yw ei theml hi.
23. A'r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na'r lleuad, i oleuo ynddi: canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, a'i goleuni hi ydyw'r Oen.
24. A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a'u hanrhydedd iddi hi.
25. A'i phyrth hi ni chaeir ddim y dydd: canys ni bydd nos yno.
26. A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi hi.
27. Ac nid รข i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu hysgrifennu yn llyfr bywyd yr Oen.