17. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o'r manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.
18. Ac at angel yr eglwys sydd yn Thyatira, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd, yr hwn sydd â'i lygaid fel fflam dân, a'i draed yn debyg i bres coeth;
19. Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gariad, a'th wasanaeth, a'th ffydd, a'th amynedd di, a'th weithredoedd; a bod y rhai diwethaf yn fwy na'r rhai cyntaf.
20. Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fod yn gadael i'r wraig honno Jesebel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn broffwydes, ddysgu a thwyllo fy ngwasanaethwyr i odinebu, ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod.
21. Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb; ac nid edifarhaodd hi.
22. Wele, yr wyf fi yn ei bwrw hi ar wely, a'r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i gystudd mawr, onid edifarhânt am eu gweithredoedd.
23. A'i phlant hi a laddaf â marwolaeth: a'r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw'r hwn sydd yn chwilio'r arennau a'r calonnau: ac mi a roddaf i bob un ohonoch yn ôl eich gweithredoedd.