Datguddiad 17:16-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A'r deg corn a welaist ar y bwystfil, y rhai hyn a gasânt y butain, ac a'i gwnânt hi yn unig ac yn noeth, a'i chnawd hi a fwytânt hwy, ac a'i llosgant hi â thân.

17. Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt wneuthur ei ewyllys ef, a gwneuthur yr un ewyllys, a rhoddi eu teyrnas i'r bwystfil, hyd oni chyflawner geiriau Duw.

18. A'r wraig a welaist, yw'r ddinas fawr, sydd yn teyrnasu ar frenhinoedd y ddaear.

Datguddiad 17