Datguddiad 15:6-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A daeth y saith angel, y rhai yr oedd y saith bla ganddynt, allan o'r deml, wedi eu gwisgo mewn lliain pur a disglair, a gwregysu eu dwyfronnau รข gwregysau aur.

7. Ac un o'r pedwar anifail a roddodd i'r saith angel saith ffiol aur, yn llawn o ddigofaint Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.

8. A llanwyd y deml o fwg oddi wrth ogoniant Duw, ac oddi wrth ei nerth ef: ac ni allai neb fyned i mewn i'r deml, nes darfod cyflawni saith bla'r saith angel.

Datguddiad 15