Datguddiad 12:15-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. A'r sarff a fwriodd allan o'i safn, ar ôl y wraig, ddwfr megis afon, fel y gwnâi ei dwyn hi ymaith gyda'r afon.

16. A'r ddaear a gynorthwyodd y wraig; a'r ddaear a agorodd ei genau, ac a lyncodd yr afon, yr hon a fwriodd y ddraig allan o'i safn.

17. A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac a aeth i wneuthur rhyfel â'r lleill o'i had hi, y rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, ac sydd â thystiolaeth Iesu Grist ganddynt.

Datguddiad 12