Daniel 8:5-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ac fel yr oeddwn yn ystyried, wele hefyd fwch geifr yn dyfod o'r gorllewin, ar hyd wyneb yr holl ddaear, ac heb gyffwrdd â'r ddaear; ac i'r bwch yr oedd corn hynod rhwng ei lygaid.

6. Ac efe a ddaeth hyd at yr hwrdd deugorn a welswn i yn sefyll wrth yr afon, ac efe a redodd ato ef yn angerdd ei nerth.

7. Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd, ac efe a fu chwerw wrtho, ac a drawodd yr hwrdd, ac a dorrodd ei ddau gorn ef, ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll o'i flaen ef, eithr efe a'i bwriodd ef i lawr, ac a'i sathrodd ef; ac nid oedd a allai achub yr hwrdd o'i law ef.

8. Am hynny y bwch geifr a aeth yn fawr iawn; ac wedi ei gryfhau, torrodd y corn mawr: a chododd pedwar o rai hynod yn ei le ef, tua phedwar gwynt y nefoedd.

9. Ac o un ohonynt y daeth allan gorn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol, tua'r deau, a thua'r dwyrain, a thua'r hyfryd wlad.

10. Aeth yn fawr hefyd hyd lu y nefoedd, a bwriodd i lawr rai o'r llu, ac o'r sêr, ac a'u sathrodd hwynt.

11. Ymfawrygodd hefyd hyd at dywysog y llu, a dygwyd ymaith yr offrwm gwastadol oddi arno ef, a bwriwyd ymaith le ei gysegr ef.

12. A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddiol oherwydd camwedd, ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr; felly y gwnaeth, ac y llwyddodd.

Daniel 8