15. A phan welais i Daniel y weledigaeth, a cheisio ohonof y deall, yna wele, safodd ger fy mron megis rhith gŵr.
16. A chlywais lais dyn rhwng glannau Ulai, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Gabriel, gwna i hwn ddeall y weledigaeth.
17. Ac efe a ddaeth yn agos i'r lle y safwn; a phan ddaeth, mi a ddychrynais, ac a syrthiais ar fy wyneb: ac efe a ddywedodd wrthyf, Deall, fab dyn; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd.
18. A thra yr oedd efe yn llefaru wrthyf, syrthiais mewn trymgwsg i lawr ar fy wyneb: ac efe a gyffyrddodd â mi, ac a'm cyfododd yn fy sefyll.
19. Dywedodd hefyd, Wele fi yn hysbysu i ti yr hyn a fydd yn niwedd y dicter; canys ar yr amser gosodedig y bydd y diwedd.
20. Yr hwrdd deugorn a welaist, yw brenhinoedd Media a Phersia.
21. A'r bwch blewog yw brenin Groeg; a'r corn mawr, yr hwn sydd rhwng ei lygaid ef, dyna y brenin cyntaf.