Daniel 6:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwelodd Dareius yn dda osod ar y deyrnas chwe ugain o dywysogion, i fod ar yr holl deyrnas;

2. Ac arnynt hwy yr oedd tri rhaglaw, y rhai yr oedd Daniel yn bennaf ohonynt, i'r rhai y rhoddai y tywysogion gyfrif, fel na byddai y brenin mewn colled.

3. Yna y Daniel hwn oedd yn rhagori ar y rhaglawiaid a'r tywysogion, oherwydd bod ysbryd rhagorol ynddo ef: a'r brenin a feddyliodd ei osod ef ar yr holl deyrnas.

4. Yna y rhaglawiaid a'r tywysogion oedd yn ceisio cael achlysur yn erbyn Daniel o ran y frenhiniaeth: ond ni fedrent gael un achos na bai; oherwydd ffyddlon oedd efe, fel na chaed ynddo nac amryfusedd na bai.

5. Yna y dywedodd y gwŷr hyn, Ni chawn yn erbyn y Daniel hwn ddim achlysur, oni chawn beth o ran cyfraith ei Dduw yn ei erbyn ef.

Daniel 6