Daniel 4:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Nebuchodonosor frenin at yr holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd, y rhai a drigant yn yr holl ddaear; Aml fyddo heddwch i chwi.

2. Mi a welais yn dda fynegi yr arwyddion a'r rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf Dduw â mi.

3. Mor fawr yw ei arwyddion ef! ac mor gedyrn yw ei ryfeddodau! ei deyrnas ef sydd deyrnas dragwyddol, a'i lywodraeth ef sydd o genhedlaeth i genhedlaeth.

4. Myfi Nebuchodonosor oeddwn esmwyth arnaf yn fy nhŷ, ac yn hoyw yn fy llys.

5. Gwelais freuddwyd yr hwn a'm hofnodd; meddyliau hefyd yn fy ngwely, a gweledigaethau fy mhen, a'm dychrynasant.

6. Am hynny y gosodwyd gorchymyn gennyf fi, ar ddwyn ger fy mron holl ddoethion Babilon, fel yr hysbysent i mi ddehongliad y breuddwyd.

7. Yna y dewiniaid, yr astronomyddion, y Caldeaid, a'r brudwyr, a ddaethant: a mi a ddywedais y breuddwyd o'u blaen hwynt; ond ei ddehongliad nid hysbysasant i mi.

Daniel 4