Caniad Solomon 5:10-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil.

11. Ei ben fel aur coeth, ei wallt yn grych, yn ddu fel y frân.

12. Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd, wedi eu golchi â llaeth, wedi eu gosod yn gymwys.

13. Ei ruddiau fel gwely perlysiau, fel blodau peraidd: ei wefusau fel lili yn diferu myrr diferol.

Caniad Solomon 5