Caniad Solomon 5:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Deuthum i'm gardd, fy chwaer, a'm dyweddi: cesglais fy myrr gyda'm perarogl, bwyteais fy nil gyda'm mêl, yfais fy ngwin gyda'm llaeth: bwytewch, gyfeillion, yfwch, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai annwyl.

2. Myfi sydd yn cysgu, a'm calon yn neffro: llais fy anwylyd yw yn curo, gan ddywedyd, Fy chwaer, fy anwylyd, fy ngholomen, fy nihalog, agor i mi: canys llanwyd fy mhen â gwlith, a'm gwallt â defnynnau y nos.

3. Diosgais fy mhais; pa fodd y gwisgaf hi? golchais fy nhraed; pa fodd y diwynaf hwynt?

Caniad Solomon 5