45. Ac Abimelech a ymladdodd yn erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw: ac efe a enillodd y ddinas, ac a laddodd y bobl oedd ynddi, ac a ddistrywiodd y ddinas, ac a'i heuodd â halen.
46. A phan glybu holl wŷr tŵr Sichem hynny, hwy a aethant i amddiffynfa tŷ duw Berith.
47. A mynegwyd i Abimelech, ymgasglu o holl wŷr tŵr Sichem.
48. Ac Abimelech a aeth i fyny i fynydd Salmon, efe a'r holl bobl oedd gydag ef: ac Abimelech a gymerth fwyell yn ei law, ac a dorrodd gangen o'r coed, ac a'i cymerth hi, ac a'i gosododd ar ei ysgwydd; ac a ddywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, Yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur, brysiwch, gwnewch fel finnau.
49. A'r holl bobl a dorasant bob un ei gangen, ac a aethant ar ôl Abimelech; ac a'u gosodasant wrth yr amddiffynfa, ac a losgasant â hwynt yr amddiffynfa â thân: felly holl wŷr tŵr Sichem a fuant feirw, ynghylch mil o wŷr a gwragedd.
50. Yna Abimelech a aeth i Thebes; ac a wersyllodd yn erbyn Thebes, ac a'i henillodd hi.