1. Dyma y cenhedloedd a adawodd yr Arglwydd i brofi Israel trwyddynt, (sef y rhai oll ni wyddent gwbl o ryfeloedd Canaan;
2. Yn unig i beri i genedlaethau meibion Israel wybod, i'w dysgu hwynt i ryfel; y rhai yn ddiau ni wyddent hynny o'r blaen;)
3. Pum tywysog y Philistiaid, a'r holl Ganaaneaid, a'r Sidoniaid, a'r Hefiaid y rhai oedd yn aros ym mynydd Libanus, o fynydd Baalâhermon, hyd y ffordd y deuir i Hamath.