10. A'r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt, y rhai nid adwaenent yr Arglwydd, na'i weithredoedd a wnaethai efe er Israel.
11. A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baalim:
12. Ac a wrthodasant Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a'u dygasai hwynt o wlad yr Aifft, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o'u hamgylch, ac a ymgrymasant iddynt, ac a ddigiasant yr Arglwydd.
13. A hwy a wrthodasant yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baal ac Astaroth.
14. A llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; ac efe a'u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a'u hanrheithiasant hwy; ac efe a'u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion.
15. I ba le bynnag yr aethant, llaw yr Arglwydd oedd er drwg yn eu herbyn hwynt; fel y llefarasai yr Arglwydd, ac fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt hwy: a bu gyfyng iawn arnynt.
16. Eto yr Arglwydd a gododd farnwyr, y rhai a'u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr.
17. Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o'r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchmynion yr Arglwydd; ond ni wnaethant hwy felly.