Barnwyr 19:26-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Yna y wraig a ddaeth, pan ymddangosodd y bore, ac a syrthiodd wrth ddrws tŷ y gŵr yr oedd ei harglwydd ynddo, hyd oleuni y dydd.

27. A'i harglwydd a gyfododd y bore, ac a agorodd ddrysau y tŷ, ac a aeth allan i fyned i'w daith: ac wele ei ordderchwraig ef wedi cwympo wrth ddrws y tŷ, a'i dwy law ar y trothwy.

28. Ac efe a ddywedodd wrthi, Cyfod, fel yr elom ymaith. Ond nid oedd yn ateb. Yna efe a'i cymerth hi ar yr asyn; a'r gŵr a gyfododd, ac a aeth ymaith i'w fangre.

29. A phan ddaeth i'w dŷ, efe a gymerth gyllell, ac a ymaflodd yn ei ordderch. ac a'i darniodd hi, ynghyd â'i hesgyrn, yn ddeuddeg darn, ac a'i hanfonodd hi i holl derfynau Israel.

30. A phawb a'r a welodd hynny, a ddywedodd, Ni wnaethpwyd ac ni welwyd y fath beth, er y dydd y daeth meibion Israel o wlad yr Aifft, hyd y dydd hwn: ystyriwch ar hynny, ymgynghorwch, a thraethwch eich meddwl.

Barnwyr 19