Barnwyr 19:12-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A'i feistr a ddywedodd wrtho, Ni thrown ni i ddinas estron nid yw o feibion Israel; eithr nyni a awn hyd Gibea.

13. Ac efe a ddywedodd wrth ei lanc, Tyred, a nesawn i un o'r lleoedd hyn, i letya dros nos, yn Gibea, neu Rama.

14. Felly y cerddasant, ac yr aethant: a'r haul a fachludodd arnynt wrth Gibea eiddo Benjamin.

15. A hwy a droesant yno, i fyned i mewn i letya i Gibea. Ac efe a ddaeth i mewn, ac a eisteddodd yn heol y ddinas: canys nid oedd neb a'u cymerai hwynt i'w dŷ i letya.

16. Ac wele ŵr hen yn dyfod o'i waith o'r maes yn yr hwyr; a'r gŵr oedd o fynydd Effraim, ond ei fod ef yn ymdaith yn Gibea; a gwŷr y lle hwnnw oedd feibion Jemini.

17. Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ŵr yn ymdaith yn heol y ddinas: a'r hen ŵr a ddywedodd, I ba le yr ei di? ac o ba le y daethost?

18. Yntau a ddywedodd wrtho, Tramwyo yr ydym ni o Bethlehem Jwda, i ystlys mynydd Effraim, o'r lle yr hanwyf: a mi a euthum hyd Bethlehem Jwda, a myned yr ydwyf i dŷ yr Arglwydd; ac nid oes neb a'm derbyn i dŷ.

19. Y mae gennym ni wellt ac ebran hefyd i'n hasynnod; a bara hefyd a gwin i mi ac i'th lawforwyn, ac i'r llanc sydd gyda'th weision: nid oes eisiau dim.

20. A'r hen ŵr a ddywedodd, Tangnefedd i ti: bydded dy holl eisiau arnaf fi; yn unig na letya yn yr heol.

21. Felly efe a'i dug ef i mewn i'w dŷ, ac a borthodd yr asynnod: a hwy a olchasant eu traed, ac a fwytasant ac a yfasant.

22. A phan oeddynt hwy yn llawenhau eu calon, wele, gwŷr y ddinas, rhai o feibion Belial, a amgylchynasant y tŷ, a gurasant y drws, ac a ddywedasant wrth berchen y tŷ, sef yr hen ŵr, gan ddywedyd, Dwg allan y gŵr a ddaeth i mewn i'th dŷ, fel yr adnabyddom ef.

23. A'r gŵr, perchen y tŷ, a aeth allan atynt, ac a ddywedodd wrthynt, Nage, fy mrodyr, nage, atolwg, na wnewch mor ddrygionus: gan i'r gŵr hwn ddyfod i'm tŷ i, na wnewch yr ysgelerder hyn.

Barnwyr 19